Mandrake Linux

Gwybodaeth am Osod

Gwybodaeth Gosod – Mandrake Linux 9.2

Ffurfweddiad Angenrheidiol

Mae gosod Mandrake Linux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich peiriant.
Darllenwch bwynt 1.

SYLW:


Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandrake Linux:

  1. Cychwyn yn syth o'r CD
  2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows
  3. Dulliau eraill o osod


1. Cychwyn yn syth o'r CD

Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ail gychwyn y peiriant. Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod, neu [F1] am gymorth pellach.

SYLW:

Ar rai cyfrifiaduron symudol, efallai na fydd y system yn ailgychwyn o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, ceisiwch gychwyn o'r ail CD: mae modd cychwyn o hwnnw hefyd, ac mae'n defnyddio trefn 'mwy diogel'. Pan fydd yn gofyn amdano, newidiwch yr CD. Os nad yw'r ail CD'n cychwyn chwaith, dylech baratoi disg cychwyn.  Gweler pwynt 2 am fanylion.

[brig y dudalen]


2. Gwneud disg meddal cychwyn gyda Windows

Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CDROM ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg cychwyn gyda Windows.
Dyma sut mae gwneud:

I gychwyn y gosodiad:

[brig y dudalen]


3. Dulliau eraill o osod

Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...), bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn:

Lle mae xxxxx.img yn un o'r delweddau cychwyn:

cdrom.img gosod o'r CD-ROM
hd.img gosod o'r disg caled
network.img gosod o ftp/nfs/http
other.img gosod a chynnwys gyrrwy anaml eu defnydd
pcmcia.img gosod o ddyfais pcmcia (rhybudd, mae' rhan fwyaf o addaswyr rhwydwaith pcmcia yn cael eu cynnal gan network.img)
usb.img gosod o ddyfeisiau USB: addaswyr rhwydwaith USB i gyflawni gosodiad rhwydwaithl, or CDROM/CDRW USB i gyflawni gosodiad cdrom
blank.img gosod eich cnewyllyn Linux eich hun

I ddefnyddio 'blank.img', adeiladwch eich cnewyllyn eich hun, gan grynhoi'r holl gefnogaeth angenrheidiol o fewn delwedd y cnewyllyn (nid fel modiwl). Yna ar ôl creu'r disg meddal o 'blank.img', copiwch eich delwedd "vmlinuz" a'r i'r disg meddal.

[top y dudalen]


Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch text wrth yr annogwr.

Os fyddwch byth angen achub eich system Mandrake Linux, rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant, pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch rescue wrth yr anogwr.

Gweler http://www.linux-mandrake.com/drakx/README am ragor o wybodaeth dechnegol.

[top y dudalen]


Prif gamau'r gosodiad:

  1. Rhowch eich CDROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac ail gychwyn eich peiriant.
  2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu Mandrake Linux yn ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.
  3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch y peiriant gyda llaw.
  4. Bydd Mandrake Linux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif neu fel "gwraidd" (root).

Nodyn pwysig:

Mae'r cyfrif "gwraidd" yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd".

Pob hwyl gyda Mandrake Linux !

[top y dudalen]


Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandrake Linux a'r FAQs ar safle gwe: