Mandrake Linux ============== ============================================================================ Mae cynnwys y CD-ROM o dan Hawlfraint (C) 2003 MandrakeSoft S.A. ac eraill. Gweler y rhybuddion hawlfraint unigol ym mhob pecyn ffynhonnell am delerau dosbarthu. Mae'r telerau dosbarthu sydd wedi eu hawlfreintio gan MandrakeSoft a Red Hat Software wedi eu nodi yn ffeil COPÏO. Mae Mandrake a'i logo yn rhan o hawlfraint MandrakeSoft S.A. ============================================================================ 1. Trefn y Cyfeiriadur Mae'r cyfeiriadur wedi ei drefnu fel hyn: |--> Mandrake/ | |--> RPMS/ pecynnau deuaidd | |--> base/ archif gosod system ffeil fechan | `--> mdkinst/ delwedd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer | gosodiadau graffigol |--> images/ delweddau cychwyn a'r cnewyllyn |--> doc/ ffeiliau cymorth gyda'r gosod mewn amrywiol ieithoedd |--> dosutils/ gwasanaethau gosod ar gyfer DOS |--> misc/ ffeiliau ffynhonnell; coed gosod |--> VERSION rhif y fersiwn cyfredol |--> RPM-GPG-KEYS llofnod allwedd GNUPG RPM Mandrake |--> COPYING gwybodaeth am hawlfraint |--> INSTALL.txt cyfarwyddid gosod `--> README.txt ffeil testun Os ydych yn adlewyrchu i raniad neu gyfrol NFS, rhaid i chi gipio popeth o dan "Mandrake/", yn ogystal â'r delweddau disg o "images/" sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich system. ============================================================================ 2. Gosod Gweler y ffeil INSTALL.txt. NODYN CYDWEDDIAD PWYSIG: Mae Mandrake wedi ei adeiladu gyda chyflymder optimeiddiad CPU dosbarth Pentium (Pentium(tm) a'u tebyg, AMD K6, Cyrix M2, PIII...) ac felly NI FYDD YN RHEDEG ar gyfrifiaduron hyn, megis yr i386 a'r i486. ============================================================================ 3. Ffynonellau Mae pob pecyn penodol ar gyfer Mandrake Linux yn dod gyda'i ffynonellau ar y CD ffynhonell (PowerPack Edition). Mae modd i chi lwytho i lawr yr holl becynnau ffynhonell oddi ar ein gwasanaethwyr FTP. Os nad oes gennych gysylltiad hwylus â'r we, mae modd i Mandrake anfon archif ffynhonell atoch am bris bychan. ============================================================================ 4. Cefnogaeth I'r rhai sydd â mynediad i'r we, ewch i * http://www.linux-mandrake.com/support/ Yn arbennig, mae modd cael cysylltiad gyda'n rhestrau e-bostio yn: * http://www.linux-mandrake.com/en/flists.php3 Os nad oes gennych fynediad hwylus i'r we mae dal modd i chi danysgrifio i'r brif restr e-bostio. Er mwyn tanysgrifio, anfonwch e-bost at: sympa@linux-mandrake.com gyda subscribe newbie yng nghorff y neges. ============================================================================ Os nad ydych wedi derbyn dogfennaeth gyda'r cynnyrch hwn, mae modd i chi archebu'r Mandrake PowerPack Edition (nifer o CDau Mandrake + Llawlyfr Gosod a Defnyddio + cefnogaeth gosod!) gan ein siop ar-lein yn: * http://www.mandrakestore.com/ ============================================================================ 5. Cysylltiadau Mae modd cysylltu â MandrakeSoft drwy: * http://www.mandrakesoft.com/company/contact