Mandrake Linux Cyfarwyddiadau Gosod - Mandrake Linux 9.2 Ffurfweddiad Angenrheidiol * Prosesydd Pentium neu gyfatebol * Gyrrwr CDROM * O leiaf 32 MB RAM, argymhellir 64 MB Mae gosod Mandrake Linux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich peiriant. Darllenwch bwynt 1. SYLWCH: * Os ydych yn uwchraddio o fersiynau 7.0, 7.1, 7.2, 8.0 8.1, 8.2, 9.0 neu 9.1, peidiwch anghofio â gwneud copi o'ch system wrth gefn. * NID oes cefnogaeth i uwchraddio fersiynau cynt (cyn 7.0). Yn yr achosion hynny, gwnewch osodiad newydd a pheidio uwchraddio. ============================================================================ Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandrake Linux: 1. Cychwyn yn syth o'r CD 2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows 3. Dulliau eraill o osod ============================================================================ 1. Cychwyn yn syth o'r CD Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CD-ROM Gosod. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ailgychwyn y peiriant. Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod, neu [F1] am gymorth pellach. SYLW: Ar rai cyfrifiaduron symudol, efallai na fydd y system yn ailgychwyn o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, ceisiwch gychwyn o'r ail CD: mae modd cychwyn o hwnnw hefyd, ac mae'n defnyddio trefn 'mwy diogel'. Pan fydd yn gofyn amdano, newidiwch yr CD. Os nad yw'r ail CD'n cychwyn chwaith, dylech baratoi disg cychwyn. Gweler pwynt 2am fanylion. ============================================================================ 2. Gwneud disg meddal cychwyn gyda Windows Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CD-ROM, rhaid gwneud disg cychwyn gyda Windows. Dyma sut mae gwneud: * rhowch y CD-ROM yn y gyrrwr, cliciwch ar eicon "My Computer" , clic de ar eicon gyrrwr y CD a dewis "Open" * mynd i gyfeiriadur "dosutils" a rhoi clic dwbl ar eicon "rawwritewin" * rhowch ddisg meddal gwag yn y gyrrwr * dewiswch "D:\images\cdrom.img" ym maes "Image File" (gan gymryd mae "D" yw eich CDROM, neu newidiwch ef yn ôl y galw) * dewiswch "A:" ym maes "Floppy Drive" ac yna clicio "Write" . I gychwyn gosod: * rhoi'r CDROM yn y gyrrwr, yn ogystal â'r disg cychwyn, ac yna * ail gychwyn y cyfrifiadur. ============================================================================ 3. Dulliau eraill o osod Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...), bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn: * O dan Linux (neu unrhyw system UNIX fodern) teipiwch wrth yr anogwr: $ dd if=xxxxx.img of=/dev/fd0 * O dan Windows, dilynwch y dull disgrifiwyd ym mhwynt 3, ond gan ddefnyddio xxxxx.img (gweler isod) yn lle cdrom.img . * O dan DOS, gan gymryd mai D yw gyrrwr eich CD, teipiwch: D:\> dosutils\rawrite.exe -f images\xxxxx.img -d A Lle mae xxxxx.img yn un o'r delweddau cychwyn: +----------------------+----------------------------------------------------------------------------------+ | cdrom.img | gosod o'r CD-ROM | |---------------------+-----------------------------------------------------------------------------------| | hd.img | gosod o'r disg caled (osystem ffeilio Linux, Windows,neu | | | ReiserFS filesystem) | |---------------------+-----------------------------------------------------------------------------------| | network.img | gosod o ftp/nfs/http | |---------------------+-----------------------------------------------------------------------------------| | pcmcia.img | gosod o ddyfeisiau pcmcia | |---------------------+-----------------------------------------------------------------------------------| | hdcdrom_usb.img | | | gosod o ddisg caled neu cd-rom yn gysylltiedig âUSB | |---------------------+-----------------------------------------------------------------------------------| | network_gigabit_usb.img | | | gosod o rwydwaith gydag addasydd gigabit neu USB | |---------------------+-----------------------------------------------------------------------------------| | blank.img | gosod eich cnewyllyn Linux eich hun | +--------------------+----------------------------------------------------------------------------------+ I ddefnyddio 'blank.img', adeiladwch eich cnewyllyn eich hun, gan grynhoi'r holl gefnogaeth angenrheidiol o fewn delwedd y cnewyllyn (nid fel modiwl). Yna ar ôl creu'r disg meddal o 'blank.img', copiwch eich delwedd "vmlinuz" a'r i'r disg meddal. ============================================================================ Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch text wrth yr annogwr. Os fyddwch byth angen achub eich system Mandrake Linux, rhowch eich CD-ROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant, pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu MandrakeLinux, ac yna teipiwch rescue wrth yr anogwr. Gweler http://www.linux-mandrake.com/drakx/README am ragor o wybodaeth dechnegol. ============================================================================ Prif gamau'r gosodiad: 1. Rhowch eich CD-ROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac ail gychwyn eich peiriant. 2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu Mandrake Linux yn ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus. 3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch y peiriant gyda llaw. 4. Bydd Mandrake Linux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif neu fel "gwraidd" (root). Nodyn pwysig: Mae'r cyfrif "gwraidd" yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd" . Pob hwyl gyda MandrakeLinux ! ============================================================================ Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandrake Linux a'r FAQs ar safle gwe: * E-Gymorth yn http://www.mandrakeexpert.com/ * Mandrake Erratayn http://www.mandrakelinux.com/en/errata.php3 * Mandrake Security Advisoriesyn http://www.mandrakesecure.net/en/advisories/ * Dogfennau ar-lein http://www.mandrakelinux.com/en/fdoc.php3 * Darllen ac ymuno gyda Fforymau Trafod Mandrake Club at http://www.mandrakeclub.com/ * Ymuno â'r Rhestrau E-hebu yn http://www.mandrakelinux.com/en/flists.php3 * Archifau Chwiliadwy E-bostio yn http://marc.theaimsgroup.com/ * Chwilio'r Rhyngrwyd gan ddefnyddio Google http://www.google.com/ * Chwilio Usenet Groups gan ddefnyddio Grwpiau Google yn http://groups.google.com/ ============================================================================